Adolygiad o ymchwil, polisiac ymarfer ar gyfer cynllunio dysgu digidol a chyfunol
Jeremy Miles AS, Comisiynodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg yr adroddiad hwn gan Jisc i lywio meddwl strategol a chynlluniau gweithredu ar gyfer dysgu digidol a chyfunol yn y sector addysg bellach (AB) yng Nghymru,fel rhan o Alwad i Weithredu Digidol 2030.
Alwad i Weithredu Digidol 2030 i weithredu yn gofyn i bob sefydliad AB ddatblygu cynlluniau dysgu digidol strategol, yn unol â phedair blaenoriaeth genedlaethol:
- cydweithio i ehangu mynediad i gyfleoedd dysgu
- datblygu galluoedd digidol dysgwyr a staff a’u hyder ar gyfer dysgu, bywyd a gwaith
- gwneud yn fawr o botensial technoleg i rymuso, ennyn brwdfrydedd ac ysbrydoli dysgwyr ymgorffori dulliau ystwyth, gwydn a chynaliadwy o gyflenwi
Mae’r adroddiad:
- yn cyfuno astudiaethau ymchwil diweddar, dogfennau polisi ac enghreifftiau ymarferol i roi darlun cydlynol o dirwedd gymhleth
- yn adolygu’r sylfaen dystiolaeth ar gyfer cynllunio o dan chwe thema strategol: arweinyddiaeth sefydliadol; tegwch, amrywiaeth a chynhwysiant; adnewyddu’r cwricwlwm; galluoedd digidol; mannau dysgu; a seilwaith digidol
- yn canolbwyntio ar werthoedd megis cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, dinasyddiaeth fyd-eang a chynaliadwyedd
- yn cynnig cymorth ymarferol i sefydliadau AB (SABau) ar gyfer datblygu strategaethau a chynllunio gweithredu
- yn gwahodd SABau i helpu i lunio dyfodol dysgu digidol a chyfunol
Mae ein hadroddiad yn cydnabod brys yr alwad. Mae’r pedair blaenoriaeth hyn ar gyfer AB digidol yng Nghymru wedi strwythuro ein hymagwedd, ochr yn ochr â’r chwe amcan o’r Fframwaith Digidol 2030 gwreiddiol. Drwyddi draw, rydym yn darparu ysgogiadau ar gyfer sgyrsiau â rhanddeiliaid lleol i sicrhau cyd-gynhyrchu go iawn, ac enghreifftiau o arfer i ysbrydoli a herio.
"Drwy gydol yr ymchwil hwn rydym wedi gweld rhai enghreifftiau gwych o ddysgu digidol a chyfunol. Ar draws y sector mae dysgu yn cael ei wneud yn fwy deniadol, a thrwy ddefnyddio technoleg, mae rhwystrau i ddysgu yn cael eu dileu gan roi mwy o opsiynau i ddysgwyr.
"Mae'r defnydd o dechnolegau sy'n dod i'r amlwg yn caniatáu cyfleoedd ar gyfer efelychu ac arbrofi mewn mannau diogel, gan ddileu'r ofn o fethiant a pharatoi dysgwyr ar gyfer cyflogaeth.
"Drwy goladu tystiolaeth a gofyn cwestiynau strategol, nod yr adroddiad hwn yw helpu sefydliadau addysg bellach i adeiladu ar lwyddiannau presennol a datblygu cynlluniau gweithredu strategol yn unol â blaenoriaethau Gweinidogion, gan baratoi’r ffordd ar gyfer llwyddiant personol ac economaidd yng Nghymru."
Alyson Nicholson, Jisc, Cyfarwyddwr Cymru
"Gan adeiladu ar y gwaith sydd eisoes wedi'i gyflawni ar draws Cymru ym maes dysgu digidol, mae gennym gyfle cyffrous i ystyried sut y gall addysgu a dysgu esblygu i ddiwallu anghenion newidiol dysgwyr, yr economi a chymdeithas.
"Rwy'n falch o weld y ffordd y mae ein colegau addysg bellach yn dod at ei gilydd i ymgysylltu â'r materion pwysig hyn, ac i rannu gwybodaeth a phrofiad.
"Rwy'n gobeithio y bydd yr ymchwil hon yn helpu ein colegau i harneisio potensial technoleg ddigidol i gael yr effaith fwyaf ar addysgu a dysgu ac i roi i ddysgwyr o bob oed y sgiliau sydd eu hangen arnynt ar gyfer dysgu, bywyd a gwaith."
Jeremy Miles, Dywedodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg
Darllenwch y dudalen
PDF, 5 MB