Digidol 2030: Mae Jisc yn cefnogi’r sector ôl-16 i ddatblygu strategaeth ddigidol yn dilyn galwad Llywodraeth Cymru i weithredu
Mae Jisc yn bartner darparu allweddol ar gyfer Digidol 2030: fframwaith strategol.
Yn Rhagfyr 2022 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru alwad i weithredu i’r sector ôl-16 yn amlinellu’r camau nesaf yn fframwaith strategol Digidol 2030 ar gyfer 2022–2025.
I gefnogi hyn, mae Jisc yn cynnal gweminar ar 26 Ionawr ar gyfer arweinwyr addysg a darparwyr dysgu ledled Cymru i dynnu sylw at yr adnoddau sydd ar gael i’r rhai sy’n datblygu strategaethau Digidol 2030 ar gyfer eu sefydliadau.
Mae fframwaith strategol Digidol 2030 wedi’i gynllunio i ddarparu’r sgiliau a’r profiadau digidol sydd eu hangen ar weithlu’r dyfodol i ddysgwyr heddiw.
Mae Digidol 2030 yn seiliedig ar wyth nod y cytunwyd arnynt yn genedlaethol i alluogi dysgwyr a staff i fodloni gofynion y diwydiant, y sector preifat a’r sector cyhoeddus; Y rhain yw:
- Safonau digidol
- Dysgu gwell
- Cydlyniad a hygyrchedd
- Profiad diogel
- Deall manteision
- Gwelliant parhaus
- Diwylliant cydweithredol
- Aliniad adnoddau
Dywedodd Pennaeth Jisc Cymru, Alyson Nicholson:
“I gyd-fynd â nod Llywodraeth Cymru o sicrhau bod myfyrwyr yn meddu ar y sgiliau digidol i gefnogi’r economi yng Nghymru, mae Jisc wedi ymrwymo i helpu arweinwyr addysg drydyddol a darparwyr dysgu i ddatblygu eu strategaethau digidol.
“Rydym eisoes wedi gweithio gyda’r sector addysg ôl-16 yng Nghymru, trwy ddefnyddio ein hofferyn mewnwelediad profiad digidol, i feincnodi cynnydd yn ôl Digidol 2030.
“Y cam nesaf yw defnyddio’r allbynnau hyn i greu strategaethau sy’n cefnogi anghenion unigol pob sefydliad.
“Rydym yn edrych ymlaen at eu croesawu i weminar Jisc sydd ar ddod, lle bydd ein harbenigwyr cyngor ac arweiniad yn darparu gwybodaeth am adnoddau a gwasanaethau Jisc, fel yr offeryn dyrchafiad digidol.”
Dywedodd Marian Jebb, Pennaeth Ansawdd Ôl-16 yn Llywodraeth Cymru:
“Rydym wedi gofyn i sefydliadau AB ystyried sut y gallant ddatblygu dull mwy strategol a chynaliadwy o ddysgu digidol, gan adeiladu ar brofiad y pandemig Covid-19 ac wedi’i deilwra i’w blaenoriaethau lleol.
“Dros y chwe mis nesaf, bydd sefydliadau’n paratoi cynlluniau strategol digidol unigol, a fydd yn datgloi buddsoddiad cyfalaf o £8m o leiaf dros gyfnod o dair blynedd.
“Rydym yn awyddus i sicrhau bod sefydliadau’n defnyddio’r holl gymorth ac adnoddau sydd ar gael i ddatblygu eu cynlluniau strategol.
“Byddwn yn annog pob sefydliad i ymgysylltu â Jisc, ein partneriaid cyflawni Digidol 2030, i’w helpu i gyflawni’r amcanion a nodir yng ngalwad y Gweinidog Addysg a’r Gymraeg i weithredu.”
I gofrestru ar gyfer y weminar, neu am ragor o wybodaeth ar sut mae Jisc yn gallu cefnogi datblygiad eich strategaeth Ddigidol 2030, cysylltwch â'ch rheolwr perthnasoedd.
Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg / Read this page in English.