Adroddiad newydd yn cefnogi colegau Cymru i gyflawni llwyddiant Digidol 2030
Wedi’i gynhyrchu gan Jisc, bydd yr adroddiad a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru yn helpu darparwyr addysg bellach yng Nghymru i greu a gweithredu strategaeth ddigidol a hybu cydweithio.
Yng ngalwad y Gweinidog dros Addysg a’r Gymraeg i weithredu, cafodd sefydliadau addysg bellach (SABau) yng Nghymru y dasg o ddatblygu cynlluniau strategol ar gyfer dysgu digidol erbyn Gorffennaf 2023.
I gefnogi hyn, ac yn ei rôl felpartner cyflawni allweddol ar gyfer y fframwaith strategol Digidol 2030, mae Jisc wedi creu adolygiad o bolisi ac arfer ymchwil ar gyfer cynllunio dysgu digidol a chyfunol.
Mae’r adroddiad yn dwyn astudiaethau ymchwil, dogfennau polisi ac enghreifftiau ymarferol ynghyd i roi darlun cydlynol o’r dirwedd trawsnewid digidol sy’n aml yn gymhleth.
Drwy goladu gwybodaeth gan ddarparwyr AB am eu strategaethau dysgu digidol, mae’r adroddiad yn amlygu ystyriaethau allweddol. Bydd y rhain yn galluogi arweinwyr addysg i nodi meysydd blaenoriaeth a themâu strategol i helpu arfogi dysgwyr â’r sgiliau a’r galluoedd digidol sydd eu hangen arnynt i lwyddo.
Nod yr adroddiad hefyd yw sbarduno sgwrs ar draws y sector a hybu cydweithredu wrth i ffyrdd newydd o roi strategaethau dysgu digidol ar waith a harneisio technolegau newydd ddod i’r amlwg.
Dywedodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles:
"Gan adeiladu ar y gwaith sydd eisoes wedi'i gyflawni ar draws Cymru ym maes dysgu digidol, mae gennym gyfle cyffrous i ystyried sut y gall addysgu a dysgu esblygu i ddiwallu anghenion newidiol dysgwyr, yr economi a chymdeithas.
"Rwy'n falch o weld y ffordd y mae ein colegau addysg bellach yn dod at ei gilydd i ymgysylltu â'r materion pwysig hyn, ac i rannu gwybodaeth a phrofiad.
"Rwy'n gobeithio y bydd yr ymchwil hon yn helpu ein colegau i harneisio potensial technoleg ddigidol i gael yr effaith fwyaf ar addysgu a dysgu ac i roi i ddysgwyr o bob oed y sgiliau sydd eu hangen arnynt ar gyfer dysgu, bywyd a gwaith."
Dywedodd Cyfarwyddwr Jisc Cymru, Alyson Nicholson:
“Trwy gydol y broses ymchwil rydym wedi darganfod rhai enghreifftiau gwych o ddysgu digidol a chyfunol. Ar draws y sector, mae rhwystrau i ddysgu yn cael eu dileu trwy ddefnyddio technoleg newydd, gan roi rhagor o opsiynau i ddysgwyr.
“Trwy gasglu tystiolaeth a thynnu sylw at ystyriaethau allweddol, nod yr adroddiad hwn yw helpu darparwyr addysg bellach i adeiladu ar lwyddiannau presennol a datblygu cynlluniau gweithredu strategol yn unol â blaenoriaethau’r gweinidogion, gan baratoi’r ffordd ar gyfer llwyddiant personol ac economaidd yng Nghymru.”